|
Pythefnos Fwyd Cymreig 2008 |
|
Cynhelir y seithfed Pythefnos Fwyd Prydeinig rhwng 20 Medi a 5 Hydref 2008 yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf, y cyfnod pan rydym yn draddodiadol yn dathlu ein bwyd. Cynhelir llawer o weithgareddau yng Nghymru, gyda Phythefnos Fwyd Cymreig yn chwifio’r faner ar gyfer bwyd Cymreig fel rhan o’r ymgyrch cenedlaethol.
Caiff yr amrywiaeth blasus o fwyd a gaiff ei gynhyrchu yng Nghymru ei ddathlu gyda hyrwyddiadau a sesiynau blasu mewn siopau, bwydlenni hollol Gymreig mewn tafarndai a bwytai, gwersi bwyd a choginio mewn ysgolion a gwyliau bwyd hyfryd. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan yn y Pythefnos Fwyd Cymreig ar gael ar y wefan hon. |